Adolygiad llyfr Megan Euros 9S

Y llyfr ddarllenais i yn ystod y bythefnos oedd ‘Cari Wyn – 'Gendarme' o fri!’. Dewisais y llyfr hwn o’r llyfrgell oherwydd fy mod wedi darllen yr un cyntaf ym mlwyddyn saith. Er bod hynny ymhell yn ô l, rwyf yn cofio’r llyfr ac mi wnes i ei fwynhau. Felly pam ddim darllen yr ail nofel am Cari Wyn? Heb imi sylweddoli, mae’r llyfr yma’n addas iawn ar gyfer yr wythnos yma oherwydd bod dydd Mawrth yn ddiwrnod Iaethoedd Ewropeaidd! Ffrainc yw plot y stori gan bod Cari yn mynd ar drip yno gyda’r ysgol. Cefais gyfle i astudio Ffrangeg wrth ddarllen y llyfr!

Awdures y llyfr yw Jacqueline Wilson ac mae wedi cael ei gyfieithu i’r Gymraeg gan Gwenno Hywyn. Pris y llyfr yw £3.50, mae hyn yn rhad iawn yn fy marn i. Mae’r llyfr wedi’i gyhoeddi gan Gwasg Gwynedd. Un peth sydd yn unigryw am y llyfr hwn yw’r broliant ar y cefn. Yn lle ysgrifennu paragraffau diflas i roi cefndir i’r stori, mae Cari wedi llenwi holiadur. “DISGRIFIAD: bach, fel weiren gaws (gwaetha’r modd) – ond yn sydyn fel mellten” meddai Cari amdan ei hun. Ar y clawr gwelaf ‘Cari Wyn’ mewn print mawr. Mae’r cefndir yn wyn ac yn blaen, ond mae digon o luniau arno i ddod a bywyd i’r clawr. Mae dau lun o Cari a llun o’r T ŵ r Eiffel. Fel hyn cawn wybod bod y stori wedi’i selio ar Baris.

Mae Cari’n gymeriad penderfynol dros ben! Unwaith mae hi’n rhoi ei meddwl ar rywbeth dyw hi ddim yn troi’n ô l nac yn cael traed oer! Ei uchelgais mewn bywyd yw i fod yn dditectif, felly mae datrys problemau a chael diolch gan yr heddlu yn un cam yn agosach at wireddu ei breuddwyd. Merch ddewr iawn yw Cari, ond efallai na fydd hi’n ddigon dewr i wynebu beth sydd o’i blaen ym Mharis! Mae darllen y stori yma fel gwylio ffilm arswyd, Cari yw’r cymeriad dwl sydd bob tro’n mynd ar ô l y bwgan er eich bod yn gwedd ï o arni i beidio! Bydd Cari Wyn ‘Ditectif y Ganrif’ wedi mynd yn rhy bell y tro hwn?

Enw ffrind gorau Cari yw Gwenan, mae Cari’n hynod o ffodus i’w chael! Mae Gwenan bob tro yna i dynnu Cari allan o dwll dim bwys beth yw’r achlysur. Mae Cari yn cael ei hun mewn i dyllau’n aml, yn enwedig gyda’r athrawon. Mae’r athrawon bob tro’n ymddiried yn Cari ond mae hi bob tro’n cael ei hun mewn i drwbl un ffordd neu'r llall. Un enghraifft o hyn yw pan mae Cari a Gwenan yn aros yng ngwaelod y T ŵ r Eiffel ar ô l gaddo i’r athrawon y bydden nhw ddim yn symud cam. Ond wrth gwrs, mae Cari’n torri’i gair! “Rydych chi’n ddwy ferch drafferthus iawn. Roedd eich athrawon chi’n becso’n ofnadw'!” meddai dynes wrthyn nhw ar y stryd. Merch fach dda yw Gwenan, mae Cari yn ei llusgo mewn i lawer o drwbl yn aml. Rwyf yn meddwl bod Gwenan yn mwynhau’r anturiaethau gwyllt go iawn, ond mae hi’n cuddio hynny! Mae’n rhaid bod Gwenan yn ymddiried yn Cari neu buasai Gwenan ddim yn ei helpu i ddatrys y dirgelwch. “Tyrd, Gwenan,” meddaf i ac er ei bod hi’n grwgnach, mae hi’n ufuddhau.”

Mae’r stori wedi cael ei ysgrifennu yn y person cyntaf, Cari Wyn yw’r stor ï wr. Mae’n anffurfiol felly credaf ei fod yn apelio tuag at fy ngr ŵ p oedran i. Sylwais ar nifer o gymariaethau difyr yn y stori, fel “rydw innau’n dlawd fel llygoden eglwys” ac “mae’r genod eraill yn mynd ati fel lladd nadroedd”. Mae’r un gyntaf yn effeithiol oherwydd bod llawer o’r stori yn s ô n am lygod ac mae’r ail yn addas oherwydd ei fod yn dangos y gwahaniaeth rhwng Cari a’r genethod eraill. Doedd Cari dal heb feddwl am ddechra​u’i phrosiect, roedd y genethod eraill bron a gorffen!

Mae’r stori yma’n llawn antur ac oherwydd yr holl ddigwyddiadau amheus sy’n mynd ymlaen, rwyf eisiau cario ymlaen i ddarllen. Mae’n lyfr da ar gyfer blynyddoedd 7,8 a 9 oherwydd bod nifer o Ffrangeg ynddo. Dysgais i beth oedd ‘minuit’, sef hanner nos yn Ffrangeg! Rwyf yn hoff iawn o’r ffaith bod Cari’n disgrifio popeth sydd o’i chwmpas yn fanwl oherwydd mae’n rhoi darlun yn fy meddwl. Pleser oedd cael darllen y nofel felly buaswn yn ei argymell i fy ffrindiau!